Home

Gareth Jones

Gareth Jones' Books

Pictorial story of Gareth

Childhood

Colley Family

My Hobbies

Siriol's Photos

Earl of Abergavenny

Eirian, a Land Girl in 1917

Articles of interest

Sharm el Sheikh

Guest Book

Links

 

 

                                                     Y DDINAS DDUR

gan A. Gwen Jones.                                       Click here for English Version

Rhagfyr 15 1943

Rehearsa1: 4.0 p.m.            

 

 

Pan g1ywaf ar y radio yr enwau Kieff, Charkov, Krivol-Rog ac yn enwedig Stalino, y ddinas ddur, ar newyddion am lwyddiant y Rwsiaid yno, bydd fy meddwl yn mynd nol dros hanner can mlynedd, a daw darluniau byw or llefydd hyn o flaen fy llygaid. Pan glywais fod Stalino wedi ei ail gymryd gan y Rwsiaid, meddyliais am y Stalino yr oeddwn yn nabod mor dda, canys bum yn byw yno yn ferch ifanc am dair blynedd, ond enw arall. oedd ir lle yr amser hwnnw - sef Hughesovka, tref a alwyd felly fel nod o anrhydedd iw sylfaenydd, Cymro o Ferthyr or enw John Hughes.  Engineer oedd John Hughes a dynnodd sylwr Tzar Alexander yr ail trydydd, ar 1lywodraeth Rwsiaid, trwy ei allu technegol pan oedd yn arolygydd y Millwall Docks, Llundain. Yr oedd llywodraeth Rwsia yn awyddus i ehangu eu rheilffyrdd ac i ddatblygu gweithfeydd haearn a glo yn eu gwlad eu hun. Cofiaf glywed yn aml fel y gwahoddwyd Mr. Hughes i sefydlu gweithfeydd yn Rwsia; yn wir rwyn cofion dda y plaque arian a roddodd y Tzar iddo fel anrheg.  Derbyniodd Mr. Hughes y gwahoddiad ac aeth o amgyich y wlad, a dewisodd fan ar wastadeddau unig y Steppes, yn neheudir Rwsia, lle nad oedd and bugail ai gi iw gwelod. Ond yr oedd y lle hwn yn gyfoethog mewn glo a haearn, ac heb fod ymhell o Daganrog a Mariupol, porthladdoedd ar fr Azov. Nid oedd mwngloddiau haearn Krivoi-Rog ymhell iawn a daethant hwythau yn eiddo I Gwmni Newydd Rwsla. y Novorossiskoe Obshchestvo, a ffurfiwyd yn 1869. Rwyn cofio i ni ymwe1ed a Chrivoi-Rog yn 1892.

Yn 1889 pan gyrhaeddais Hughesovka yr oedd y boblogaeth wedi cynyddu o ddim i oddeutu hanner can mil, (50,000) aglofeydd ar gweithfeydd haearn a dur ar lawn waith. Mae Stalino nawr yri un o brif ganolfarmau rheilffyrdd dyffryn Donetz, ond yn1889 yr unig reilffyrdd ir de oedd iTaganrog a Mariupo1 y stesion agosaf ar llinell ir gogleddd trwy Charkov oedd Charsisky. Yr oeddom yn dyrfa o bob gwlad ac laith ( Rwsiaid, Pwyliaid, Ellmyn, Belgiaid~ Iddewon, Tartariaidd a Georgiaid o Tiflis yn y Caucasus cartref Stalin) ac yn eu mysg gwnni bychan o Saeson a Chymry. Daeth John Hughes a gweithwyr profiadol. gydag e o Ddowlais, Merthyr a Rhymney yr amser hwnnw yr oedd tua deg a thrigan o Gymry yno, ond clywais fod yna fwy un adeg. Rwyn cofio rhai ohonynt Mr. Watkins a briododd Miss Curtis o Rhymney. Mr. Holland a fu yn Gemiat yng ngweithfeydd Dowlais, y teulu James ac erail]. Ond y gwr a gofiaf orau oedd John John o Ddowlais, Cymro or math gorau, dyn y gellid ymddiried ~ynddon drvryadl. Byddwn yn mwynhau siarad gydag e yn Gymraeg. Yr amser yna nid oedd y gweithwyr yn cael eu talu ond un waith y mis ac yr oedd arian y cyflogau yn dod o Daganrog o dan warchod. Bu John Hughes farw ym Mehefln 1889, ychydig fisoedd cyn i mi gyrraedd Hughesovka fel athrawes i ddwy ferch Ifanc Mr. a Mrs. Arthur Hughes. Yr ail o bedwar mab John Hughes oedd Arthur Hughes; a r wraig oedd Miss Augusta James o Lanovor, Sir Fynwy.  Diddorol i lawer Cymro ydywr ffaith mair bardd Islwyn au priododd. Gyda llaw trwy bregethwr mawr arall y Parch. Dr. Saunders, Abertawe, yn an-union~gyrcho1, y cefais ir cyfle i fynd i  Rwsia.

Cofiaf y daith hir araf gydar teulu trwy Ewrop, gan aros rhai dyddiau yn Berlin, Warsaw (lle y collais fy ffordd a chael fy hunan yn y Ghetto), wedyn Kieff a Charkov Daw darlun byw o dref hynafol. a sanctaidd Kieff o flaen fy llygald; croesir afon lydan y Dnieper, ac edmygur llu mawr o eglwys I gydau tyrrau a tu domes euraidd yn disgleirio yn yr awyr las, Gwelais yno dorf o bererinion wedi cerdded ar hyd y ffordd o Siberia bell. Yna Charkov gydai Phrifysgol ardderchog ai ffeiriau byd-enwog, Or diwedd cyrraedd gorsaf Charsisky wedi llwyr flino. Yno yr oedd cerbydau yn in cyfarfod i fynd ni i Hughes ovka.  Nid anghofiaf byth y teimlad o unigrwydd llethol am llanwodd wrth deithio dros wastadoddau llwm, digoed, diderfyn y Steppes; dim rhyfedd i hiraeth am Gymru bron fy llwyr orchfygu.

Ond bur diddordob yn y bywyd diarth oedd o em hamgylch ar awydd naturiol i weld popeth newydd yn help i mi deimlon gartrefol Hughesovka. Yr oeddem yn byw mewn t mawr ynghanol gardd eang a waliau uchol oi gwmpas er mwyn diogelwch, ac yr oedd yna wylwyr yn edrych ar o1 y lle dros y nos, ond ni eflid dibynnu arnynt bob amser.

  Nid oedd bywyd yno yn anniddorol nac heb amrywiaeth. Cymerai llythyrau a phapurau o gartref tuag un diwrnod ar ddeg in cyrraedd ac yn amyl yr oeddynt wedi eu sensro. Ni chianiateid i rai llyfrau i ddod i mewn ir wlad.            ~

  Deuai ymwelwyr yno o bob gwlad ac iaith, engineers a myfyrwyr o Foscow, Petersburg (Leningrad nawr) ac hyd yn oed o Siberia bell.  Unwaith daeth Llywodraethwr Talaith Ekaterinoslav, Dnepropotrovsk yi gelwir nawr i aros gyda ni.  Cyrrhaeddodd y t gyda seromoni mawr yn cael ci hebrwng gan gwmni o Gossacks ar geffylau. Yr oedd gan rai ymwelwyr straeon oedd yn ddiddorol a chyffrous lawn i ferch ifanc fel fi.  Dymar amser y gelwid y chwyl-dro-ad-wyr yn Nihilists.  Dywedwyd wrthyf fy mod yn nabod rhai o honynt ac rwyf yn cofio yn dda i mi gael fy rhybuddio am siarad geiriau di-ofal, yn hollol ddiniwed, gan na wyddem pwy fyddai ymysg yr ymwelwyr ir t. Yr oedd y polis yn arolygu ac edrych i mewn i bobpeth yn fanwl iawn, a rhaid. oedd bod yn ofalus. Yr oeddynt yn strict iawn wrth chwilio ein passports.  Yr wyf wedi cadw fy hen bassport sydd wedi ei arwyddo gan yr Arglwydd Salisbury-  prif weinidog yr amser hynny. Yr oeddem yn gallu mwynhau ein hunain mewn sawl ffordd.  Gwyddoch fod y Rwsiaid yn gerddorion a chantorion ardderchog. Un waith bob wytbnos yr oeddem yn clywed miwsig or radd uchaf ac yn aml yn caol y fraint o glywed boneddiges Polish Madame Yancharski yn canur piano. Yr oedd hi wedi bod yn ddisgybl i Rubinstein ac yr oedd Paderewski yn un oi chyfeillion.

  Nid anghofiaf byth y canu godidog yn yr Eglwys Roegaidd yn Hughesovka. Daeth y newydd yn ddiweddar fod Stalin wedi cydnabod Patriarch yr Eglwys yn Rwsia ag atgofion o lawer gwasanaeth y bum ynddo, yn enwedig gwasanaeth y noson cyn y Pasg. Gwnaeth y gwasanaeth hwn gydai seremoni a miwsig ardderchog y cr, yn enwedig lleisiau dwfn y Bass argraff ddofn arnaf. Yr oedd yr olygfa tu fewn ir eglwys yn llanw un ag ysbryd addoliad. Yr oedd yr eglwys yn orlawn, pawb yn sefyll a chanwyllau yn eu llaw; nid oes seti yn yr Eglwys Roegaidd. Ar ganol nos, fe darawa cloc yr eglwys, yna dawr offeiriaid yn. eu gwisgoedd hardd ysblenydd a chanant Cyfododd Grist. Penlinia pob un or gynulloidfa, ymgroesa, ac ateba yn ddiau fe a gyfododd; yna fe gn y cr emyn arbennig y Pasc; maer holl glychau yn canu ar eglwys i gyd yn disgleirio goleuadau prydferth. Yna cyfarcha pob un ei gilydd thri chusan a bloeddiant yn llawen Cyfododd Crist, a bydd pawb yn cydorfoleddu. Anodd peidio edmygu y dull manwl y cedwir ympryd y Grawys (Lent) ond cyn gynted y byddai gwyl y Pasc drosodd yr oeddynt yn ymroddi yn ormodol i wledda a byddair ysbyty yn llawn,

  Un o'n prif bleserau oedd hela - yr oedd yno faint a fynner o lwynogod a sgyfarnogod, ond ni chaniateid i nir merched uno i hela bleiddlaid o herwydd y perigl. Byddai swyddogion y Cossacks yn aml yn dod allan gyda ni ac yr oeddent yn gallu marchogaeth yn rhyfedd. Yr oed y cŵn hela wedi dod o ystad y Court, Merthyr Tydfil a chan fy mod i wedi bod yn ddisgybl yn ysgol y Court, Morthyr. o dan y tair Misses Edwards, yr ooddwn yn teimlo diddordeb yn y cŵn.

Nid anghofiaf chwaith y sglefrio ar lyn y gwaith, an teithiau ar sledges dros yr eira disglair, gyda chlychaurtroika, y tri ceffyl yn canun felodaidd yn yr awyr glir. Yr oedd yna dipyn o flas anturiaoth mewn sledgo dros y steppes, gan y byddai llawer o gŵn hanner bleiddiaid weithiau yn ein dilyn a rhaid oedd i Ivan, in gyrrwr ddefnyddior whip Iw cadwtn l.

Pan oeddwn yn byw yn Rwsla nid oedd ond dau ddosbarth o bobl.  Yr oeddem ni mewn safle i weld y gwahaniaeth mawr oedd rhwng y ddau. Yr oedd safon bywyd ymysg y mujiks - y bobl gyffredin yn isel iawn ac nid oedd newyn yn beth anghyffredin mewn rhai ardaloedd. Yr oeddynt yn byw mewn tai bychain gwael o goed, gydag un llawr. Nid oedd yno ddim cyfleusterau i sicrhau cysur ac iechyd ond yn unig stove fawr oedd bron yn llenwir ystafell. Arni hi yn aml y cysgent y nos. Wrth gwrs yr oedd tai y gweithwyr yn Hughesovka yn llawer iawn gwell. Ymhob ty chwi welech Ikon sef darlun cysegredig ac nid yw un ty heb ei Samovar, lle stri I wneuthur t. Yr oeddwn yn hoffir mujiks; yr oeddynt yn garedig, yn ddidaro, yn wir grefyddol mewn ffordd syml a diniwed. Gwynebant bob amlwc heb rwgnach Nitchevo meddant gan godi eu hysgwyddau. Yr oeddynt yn amyneddgar a chall, yn llawn o synnwyr cyffredin a hiwmor. Ond fe1 pob Rwsiad yn ofergoelus iawn.

Ar nosweithau pryd oedd y tywydd in braf, byddent yn cyfarfod ai gillydd tu faes pentref - yna byddent yn siglo ar swings a chanu gan daro dwylo, a bron wastad yn bwyta hadau sunflowers.  Byddent yn hoff iawn o ddawnsio ac yr oeddent yr mwynhau bywyd cymdeithasol gydai gilydd. Rhaid dweud fod pawb yn hoff or dcliod gyffredin Kvass ac os gallant ei gael y ddiod gryfach byth Vodka.

Ar wyliau arbennig yr oedd yn bleser edrych ar y merched yn eu gwisgoedd prydferth, y brodwaith arnynt yn gywrain a thlws, eu gwallt wedi eu blethun hardd a ribanau a beads o bob 11iw am eu gyddfau. Rwyn cofion arbennig un tro pan oeddem yn mynd mewn sledge dros wastadedd y steppes inni glywed draw yn y pellter ryw ganu trist yn torri an y distawrwydd pobl y pentre oeddynt yn canu am wrhydri eu cyndadau. Ni allwn anghofio ei swyn am amser maith a byddai fy meddwl yn hedeg yn ol i Gymru ai. thonau lleddf a hiraeth eto yn codi yn fy mron. Yr oedd y dosbarth hwn y pryd hynny heb allu darllen.  Un or amryw bethau atm tarawodd yn y dref ar y cyntaf oedd y signs ar bob siop; danlunlau oeddynt ac nid goiriau, er esiampl, an siop y cigydd gweloch lun buwch neu ddafad, ac felly an bob siop y rheswm wrth gwrs oedd na allent ddarllen. Mae cyfnewidiad mawr wedi dod ar y wlad yn hyn o beth. Ar fore Sul y cynhelid y farchnad, a gwelid y sgwr o amglych yr Eglwys o chwech otr gloch y bore ymlaen yn llawn o bobl y wlad gydau cynnyrch Yr oedd pris pethau yn rhad iawn, wydd neu dwrki am swillt a chyw am chwecheiniog.  Wrth gwrs mewn kopecks a roubles y talwyd am danynt

Mewn cyferbyniad r oedd y dosbarth arall yn elthriadol o ddiwylliedig.  Yr oeddynt-yn byw mewn tai mawr ar eu ystadau gyda nifer fawr o weithwyr a morwynion. Gallent siarad sawl iaith ac yr oeddont yn darllen yn ehang.   Synnwyd fi fwy nag unwaith eu bod yn gwybod gymaint am brif ysgrifenwyr Saesneg y dydd. Yr awdwr Rwsiad y sonient am dano fwyaf oedd Pushkin, ond ychydig a glywais ganddynt am Tolstoi.  Frangg oedd eu hail iaith a chlywais bron fwy o Ffrangg nag a Rwieg. Iaith galod oedd Rwsiog i ddysgu. Fel y dywedais yr oeddent yn hoff iawn a fiwsig a dawnaio ac yn rhy hoff o chawareu cardiau. Pobl ddiofa a  --fater oeddent ond eto yn garedig dros ben a llawer o swyn y perthyn iddynt.

Ni chaniata amser i mi sn am lawer o arferion diddorol araf  y wlad; nac am y tywydd eithafol - gwres llethol yr hf, oerni llym ac eira dwfn y gaeahu Clywais i wr ifanc o Rhymney golli ei fywyd mewn storm o eira sydyn ac enbyd. Deuai gwres tanbaid yr haf llawer o afiechyd fel, Dysentery. Bu bron i ml farw or clefyd hwn ond am ofal meddyg a Armeniad a oedd yn un o ddoctoriaid Ysbytyr Gwaith.

Yn 1892 daeth y Cholera ir dre a gorfu i nir teulu iffoi or lle a herwydd y Riots a achoswyd trwy ofn ac anwybodaeth. y bobl. Yr oedd y Riots yn ddigon pwysig i Bapurau Llundain eu croniclo. Ond er gorfod gadael Rwsia fel hyn, mewn brys, teimlwn yn eitha trist wrth ganu ffarwel i lawer o ffrindiau yno. Roeddwn wodi cael caredigrwydd rhyfedd gan lawer yn enwedig gan Mr. a Mrs Arthur Hughes, ac yr oeddwn wedi dod i garur wlad ai phobl, ac yn y dyddiau diweddar hyn yr wyf yn llawenhau yn llwyddiant eithradol y Rwsiaid.